Introduction
Croeso i wefan prosiect Canolfan Ynni Cilfynydd. Mae Innova yn cynnig System Storio Ynni (ESS) 400 Megawat (MW) ar dir yn union i’r gogledd o is-orsaf y Grid Cenedlaethol, i’r gorllewin o Lanfabon.
Mae safle’r datblygiad yn gorchuddio tua 6.5 hectar.
Byddai’r cynnig yn cefnogi trawsnewidiad y Deyrnas Unedig i Sero Net a mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy trwy gefnogi argaeledd ynni i’r Grid Cenedlaethol. Nodweddir ynni adnewyddadwy gan ei broffil cynhyrchu ysbeidiol. Er enghraifft, cynhyrchir ynni solar yn ystod oriau golau dydd, ac mae cynhyrchiant gwynt yn amrywio rhwng tymhorau ac yn ystod cyfnodau o adnoddau gwynt uchel ac isel.
Mae systemau storio ynni fel yr un a gynigir yng Nghanolfan Ynni Cilfynydd yn darparu ateb i hyn, trwy storio trydan o’r grid ar adegau o orgyflenwad a rhyddhau trydan yn ôl i’r grid ar adegau o alw brig.
Mae’r safle wedi’i ddewis a’i ddylunio’n ofalus trwy broses asesu manwl sy’n ystyried treftadaeth, tirwedd, dynodiadau ecolegol ac amgylcheddol, mynediad, llifogydd, trafnidiaeth ac ansawdd tir amaethyddol. Rydym wedi cyflogi tîm o ymgynghorwyr arbenigol i roi cyngor ar y prosiect.
Rhan bwysig o’r broses ddatblygu yw ymgysylltu â’r gymuned leol ac felly byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori cymunedol yng Ngwesty Llechwen Hall ar 14 Tachwedd 2024 rhwng 3pm a 7pm.